Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 1 Mai 2019
Amser:
09.35 -
11.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5485
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Huw Irranca-Davies AC Mark Isherwood AC Jenny Rathbone AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Simon Jones, Llywodraeth Cymru Dewi Rowlands, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Ail Glerc) Lisa Griffiths (Dirprwy Glerc) Megan Jones (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Carwyn Jones AC.
2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
3.1 Trafododd y Pwyllgor yr adborth a gafwyd o'r sesiynau a gynhaliwyd â'r grwpiau ffocws.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
· Simon Jones, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd
· Dewi Rowlands, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth
4.2 Cytunodd y Gweinidog i gymryd y camau a ganlyn:
· darparu rhagor o wybodaeth am nifer yr achosion o bobl yn camddefnyddio'r cynllun bathodyn glas yng Nghymru, gan gynnwys manylion y data sydd gan yr Awdurdod Twyll Cenedlaethol sy'n dangos bod 20 y cant o fathodynnau glas yn cael eu camddefnyddio ledled y DU;
· darparu manylion ynghylch sut y mae awdurdodau lleol yn defnyddio gweithdai hyfforddi a phecyn cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer asesiadau bathodyn glas; a
· darparu manylion am y gyfran o achosion o gamddefnyddio'r system y gellir ei gwaredu drwy ddileu bathodynnau nad ydynt yn ddilys.
5.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch gwneud gwaith craffu yn ‘Addas at y Dyfodol’.
5.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y Gorchymyn Gwasanaeth Carchardai 4650 cyfredol ar Hawliau Pleidleisio Carcharorion.
5.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach'.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 4.